ATAL WYLFA-B
Yr ymgyrch yn erbyn bygythiad atomfa newydd yn y Wylfa, Ynys Môn
Pwy Ydym Ni?

Mae PAWB (Pobl Atal Wylfa-B) yn grŵp sy'n ymgyrchu yn erbyn adeiladau ail atomfa (Wylfa-B) yn Ynys Môn.
Na i Ynni Niwclear

‘Sneb eisiau buddsoddi yn ynni niwclear pan mae digonedd o ffyrdd rhatach a glanach i wneud trydan.
3 Ffordd o Helpu

1. Ymunwch â’n grŵp Facebook 2. Anfonwch ebost i gynnig cymorth 3. Cyfrannwch trwy rodd
Newyddion Diweddaraf
Horizon yn crafu’r gwaelod
Hitachi yn tynnu allan o’r Wylfa
Cyhoeddiadau a mwy


Popeth sydd ei angen i ddadlau yn erbyn celwyddau’r niwcs.
Cyhoeddiadau i’w lawrlwytho, cysylltiadau i grwpiau eraill a gwybodaeth
I’r wasg a'r Cyfryngau
Newyddion Niwclear
Newyddion No2NuclearPower
- Sizewellby pete on 23/01/2021 at 9:45 am
INVESTING IN A NUCLEAR POWER plant, bulk power generation comes as standard. But in today’s power industry more is expected. The system operator needs flexibility to help manage power on the network as demand and supply changes minute by minute, or storage for longer periods when other generators […]
8 Rheswm i wrthwynebu Wylfa-B
1 ‘Sneb eisiau buddsoddi’r biliynau ar gyfer niwcs newydd, er bod Llywodraeth Llundain wedi trefnu prisiau artiffisial o uchel am drydan niwclear i’w pasio ymlaen i’r cwsmer.
2 Bydd y Llywodraeth yn gwneud i chi dalu dwbl y pris am drydan o niwcs newydd. Mae’r pris o £92.50 pob MW/awr dros ddwbl pris y farchnad bresennol, sef £41 MW/awr.
3 Does dim syniad gan neb beth i wneud efo’r tunelli o wastraff peryglus. Mae yna cynlluniau y byddai’r gwastraff yn aros ar safle Wylfa-B am 160 o flynyddoedd.
4 Daeth Prif Weinidog Siapan adeg trychineb Fukushima i Wylfa yn Chwefror 2015. Ei neges: roedd modd osgoi y trychineb, trwy osgoi ynni niwclear yn y lle cyntaf.
5 Economi Ynys Môn yw’r wannaf yng ngwledydd Prydain, gyda ffigyrau isaf ‘GVA’ y person o £11,368 ar yr Ynys. Hyn, er gwaetha cael y ‘fantais’ o atomfa am 50 mlynedd.
6 Mae’r Almaen yn cael gwared ag ynni niwclear. Mae’r Eidal wedi pleidleisio i gadw’r wlad yn ddi-niwclear. Mae’r Swisdir a Sbaen wedi gwahardd atomfeydd newydd.
7 Dylid gwneud yr ynys yn ganolfan ynni gwyrdd. Yn 2012 cyhoeddodd PAWB ‘Maniffesto Môn’: glasbrint o strategaeth economaidd i greu swyddi trwy ynni naturiol.
8 Maen nhw’n trio prynu fôts trwy addo swyddi. Mae gwleidyddion di-glem yn dweud pob math o bethau gwirion am nifer y swyddi mewn Wylfa newydd.