Paid â malu awyr!
Maen nhw'n trio prynu fôts trwy addo swyddi
Mae gwleidyddion di-glem yn dweud pob math o bethau gwirion am faint o swyddi mewn Wylfa newydd. +...
Pethau'n mynd o'i le!
Mae atomfa sy'n cael ei adeiladu yn Ffinland blynyddoedd ar ei hol hi wrth i gostau godi'n ddi-ben draw. +...
Biliynau wedi'u colli i
well atebionMae oes atomig newydd yn fygythiad enfawr i'r ateb go iawn i broblemau newid hinsawdd. Mae pob ceiniog sy'n cael ei wario ar ynni niwclear geiniog yn llai i atebion gwyrdd. +...
Cyngor Môn - Llanast!
'Run fath ag arfer, wnaeth Cyngor Môn ddim gwrando ar neb arall pan ddywedon nhw eu bod o blaid niwc arall. Mae adroddiad swyddogol wedi condemnio eu blynyddoedd o fethiant a chwarae bach. +...
Gwleidyddion yn methu gweithwyr Aliminiwm
Dywedodd y gwleidyddion wrth yr etholwyr roedd niwc newydd yn mynd i gadw swyddi Aliminiwm Môn yn saff. Ond mae atomfeydd yn cymryd blynyddoedd i'w hadeiladu a chollodd cannoedd o weithwyr eu swyddi ym 2009. +...
Niwcs - nid yr ateb i broblemau'r byd
Hyd yn oed os ydy trethdalwyr yn talu biliynau am atomfeydd newydd, bydd ynni niwclear ond yn torri carbon 4% rhywbryd ar ôl 2025. Rhy ychydig, rhy hwyr am bris rhy uchel. +...
Cymhorthdal i Niwclear
Mae ynni niwclear ond yn bosibl oherwydd yr holl bres cyhoeddus i gwmnïau preifat. Dydy banciau ddim eisiau benthyg i ddiwydiant sydd mor ansicr. Mae'r diwydiant yn llwyddo peidio talu costiau fel mathau o yswiriant gan fod costiau damweiniau niwclear mor anhygoel o uchel. +...
Cannoedd o jobs am flynyddoedd.. i lanhau'r llanast ar ôl yr HEN Wylfa
Bydd cannoedd o bobol yn cael jobs (ar gost fawr ichi) am flynyddoedd i lanhau'r llanast sydd wedi'i adael gan yr hen atomfa yn y Wylfa.. +...
Ymuno PAWB ar Facebook!
Eisiau bod yn rhan o'r ymgyrch - y cwbl sydd rhaid gwneud yw i fod yn ffrind ar Facebook. +...
Os ydy atomfeydd mor saff ac yn creu cymaint o jobs - pam maen nhw'n cael eu rhoi mor bell i ffwrdd o Lundain a phosib?
Dylai'r gwleidyddion ddim credu'r dadleuon economaidd dros adeiladu atomfa newydd yn yr Wylfa, Ynys Môn
Roedd gan yr hen atomfa broblemau technegol mawr ac roedd rhaid iddo gau lawr... ac mae 'na broblemau mawr efo atomfeydd newydd hefyd.
Tomen o wastraff i'w cadw wrth Wylfa newydd am 160 o flynyddoedd?
Does dim syniad gan neb beth i wneud efo'r tunelli o wastraff peryglus mae atomfeydd yn eu tafu allan.
Mae hyd yn oed awgrym byddai datblygiad Wylfa-B yn gorfodi cadw'r gwastraff ar y safle am 160 o flynyddoedd.
Does dim sicrwydd bod y gwastraff peryglus iawn yma ddim yn mynd i ollwng nôl mewn i'r amgylchedd, gan lygru dwr a bwyd.
Mae adeiladau atomfa newydd yn mynd i ychwanegu at y gwastraff ymbelydrol rhaid ini ei wynebu. Bydd y gwastraff yma'n beryglus am hyd at filiwn o flynyddoedd: etifeddiaeth erchyll i adael i'r cenedlaethau sydd i ddod.
Mae Sbaen newydd agor yr orsaf fwyaf yn y byd sy'n creu trydan o'r haul. Mae Sbaen bellach o flaen yr USA fel y wlad sy'n cynhyrchu mwyaf trydan o'r haul.
Manylion newydd am yr holl CO2 mae'r proses niwclear yn poeri allan. Hefyd adroddiad am sut mae Ewrop yn dibynnu ar wraniwm o welydd bregus .. +...
Mehefin 18 oedd dyddiad cau'r ffug ymgynghoriad i helpu cwmniau sy'n gobeithio codi niwcs newydd i beidio talu pris go iawn i gael gwared â gwastraff. +...
Mae'r llywodraeth wedi tynnu nôl miliynau oedd i fynd i gwmni gwneud darnau ar gyfer atomfeydd. +...
Darllenwch neges Dirprwy Brif Weinidog llywodraeth Llundain wrth BAWB +...

Cynhaliwyd piced gan ddwsin o griw PAWB tu allan i Gyngor Môn +...
Canodd cyrn ceir mewn cefnogaeth wrth iddynt basio'r placardiau a baneri'r dwsinau o brotestwyr PAWB ar Bont y Borth. +...
Gyrrodd aelodau PAWB gannoedd o gopïau o adroddiad ar sut mae'r trethdalwyr yn talu am elwau cwmnïau egni mawr. +...
Mae Jane Davidson AC, Gweinidog yr Amgylchedd yn y Cynulliad wedi datgan: "Does dim angen ar Gymru adeiladu atomfeydd newydd ar gyfer egni i'r dyfodol.. +...
PAWB Pobol yn erbyn 'Wylfa-B' - y bygythiad o atomfa newydd yn Wylfa, Ynys Môn