Stop Anglesey's nuclear nightmare - sign our petition

Gwaith Môn logo

 

GWAITH I’R YNYS

Am resymau technegol ac ariannol, mae’n edrych yn llai tebygol nac erioed y bydd’na ail atomfa ar Ynys Mon. Er hynny, mae’r ynys wedi ei bendithio gydag adnoddau heb ei ail – adnoddau dynol a naturiol a rhaid eu defnyddio yn effeithiol i greu dyfodol hyderus i boblogaeth yr ynys.

Ymhell o fod yn ddarlun ddu, gydag ychydig o ddychymyg, fe all sefyllfa’r ynys wirdroi i fod yn ganolbwynt ynni gwyrdd a chreu nifer fawr o swyddi yn sgil hynny. Mae angen weledigaeth nawr all gynnig cyfeiriad cadarnhaol i’r ymgyrch.

Er enghraifft yn yr Almaen heddiw, cyflogir 250,000 o bobl yn y diwydiant ynni adnewyddadwy o’i gymharu a 25,000 yng ngwledydd Prydain. Mae 12% o drydan yr Almaen yn dod o’r ffynonellau hyn gydag ond 4.6% yma. Paham y gwahaniaeth – diffyg polisiau addas !!

Yn ogystal a’r posibiliadau o greu swyddi yn sgil y diwydiant ynni amgen, ceir posibiliadau niferus mewn meysydd eraill. Yn yr Iwerddon heddiw, mae’na 100,000 o bobl yn gweithio yn y sector Dechnoleg Wybodaeth. O briodoli eu sefyllfa nhw a phoblogaeth Ynys Mon, disgwylir 1,750 o swyddi. Nid oes ffigyrau ar gyfer yr ynys ar gael ond prin iawn yw’r cyfleon. Paham y gwahaniaeth – diffyg polisiau addas !!

Isod, ceir crynodeb o beth sydd yn ymarferol bosib fel sail strategaeth cyflogaeth i’r ynys

  • Datgomisiynnu yn Wylfa hyd at 2020 – gwaith i 500 am 12 – 15 mlynedd. Mae’r ffigwr yn seiliedig ar brofiad Trawsfynydd a rhydd cyfnod y gyflogaeth hon gyfle ini adeiladu sylfaen swyddi o’r newydd
  • Rhaglen arbed 20% o’n defnydd ynni. (gweinyddu, marchnata, contractio, cynnal a chadw) – gwaith i 95
  • Ynni cerrynt y llanw sydd yn ffynonell cyfoethog o gwmpas yr ynys. Mae’r cwmni Marine Current Turbines Cyf. yn amcangyfrif bod modd creu cymaint os nad mwy na’r 250MW mae Aliwminiwm Mon yn defnyddio mewn blwyddyn (creu, gweithredu, cynnal a chadw) – gwaith i 50
  • Ynni tonnau – (gweithredu, cynnal a chadw) – gwaith i 20
  • Tyrbeini gwynt yn y mor (gweithredu, cynnal a chadw) – gwaith i 20
  • Bio-mass – uned bach 20MW (cynhyrchu tanwydd, gweithredu, cynnal a chadw) – gwaith i 20
  • Ynni’r haul – Celloedd ffoto-foltaic – (cynhyrchu, gosod, cynnal a chadw) – gwaith i 150 i ddechrau, gan gynyddu’r nifer fel bo’r allforion o’r ynys yn cynyddu
  • Nwy hylifol naturiol (LNG) – Storfa yn Amlwch gyda gorsaf nwy naill ai ar safle’r Wylfa neu ar raddfa llai ym Mhenrhos ar gyfer Aliwminiwm Mon – gwaith i rhwng 20 – 100 gan ddibynnu ar faint yr orsaf

Felly, tua 400 o swyddi yn y diwydiant ynni amgen. Mae hyn yn cymharu a 150 o swyddi – uninongyrchol ac anuniongyrchol – yn Wylfa B, gan nad yw’r genhedlaeth newydd o orsafoedd angen cymaint o weithlu a’r hen rai.

Beth am gyfleon eraill ar gyfer gwaith ar yr ynys ?

  • Soniwyd eisoes am y diwydiant Technoleg Wybodaeth a Chyfathrebu – 1750 o swyddi
    Bwyd/prosesu bwyd. Gyda delwedd Mon yn ‘wyrdd’ ac ‘organic’, manteisio ar hynny. Datblygu’r sector cydweithredol amaethyddol ar yr ynys – gwaith i 75
    Mentrau’r mor – delwedd bwyd iach eto – gwaith i 50
    Twristiaeth ddiwylliannol – hyrwyddo’r farchnad tramor; yn ol ECTARC, mae 90% o Almaenwyr yn dod i Gymru oherwydd y diwylliant – gwaith i 50
    Diwydiant crefft – hyrwyddo’r maes ymhellach – gwaith i 50

Tua, 2025 o swyddi ychwanegol

O ystyried yr holl bosibiliadau creu gwaith, gweler bod’na modd cynyddu cyflogaeth ar yr ynys yn sylweddol. O weithredu’r uchod, bydd’na dros 2400 o swyddi ychwanegol ac, felly, 2250 yn fwy nac unrhyw gynllun yn seiliedig ar Wylfa B.

Ymhellach, pan ystyrir fod poblogaeth yr ynys wedi lleihau o 68,175 yn1991 i 66,829 yn 2001, mae gwir angen cyflogaeth ar y lefel hon i wirdroi y tuedd tuag at diboblogi, rhywbeth sydd wedi digwydd er waetha Wylfa heb son am Wylfa B gyda’ i ofynion llai am weithwyr.

NID PROBLEM FELLY YW DATBLYGU POLISI GWAITH AMGEN OND HER CYFFROUS ALL OSOD YNYS MON AR LWYBR I SICRHAU NID YN UNIG CYFLOGAETH TEILWNG I BOBL YR YNYS OND, HEFYD, GOSOD YR YNYS YMYSG Y RHAI MWYA` BLAENGAR YN Y FWYDR I ATAL CYNHESU BYD-EANG.

Sign our petition