Newyddion
Wfft i’r Cysylltiad Ffrengig!
Mae’r cyhoeddiad gan gwmni trydan Ffrengig EDF eu bod yn gwerthu’r tir a brynwyd ganddynt yn ddiweddar ger gorsaf niwclear y Wylfa (gweler yr eitem isod) yn tanlinellu’r ffaith bod y Wylfa yn gystadleuydd gwan ar gyfer ail orsaf niwclear. Pe bai’r safle yn un gwirioineddeol ffafriol, ni byddai EDF wedi penderfynu gwerthu’r tir hwn a brynwyd mor ddiweddar mor gyflym.
Tra bod EDF yn symud eu sylw at safleoedd mwy ffafriol British Energy y maent yn y broses o’u prynu, daeth yr amser i rai gwleidyddion lleol ymatal rhag camarwain pobl i feddwl bod dyfodol i’r Wylfa fel safle cynhyrchu ynni niwclear. Yn hytrach, dylent ganolbwyntio ar ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol i hybu ynni adnewyddol, a’i dymuniad i osod Cymru yng nghanol chwyldro ynni gwyrdd a glân.
![]() |
3 Astudiaeth yn Cysylltu Canser â Niwcs Darganfuwyd bod cynnydd o 117% mewn Leukaemia ymhlith plant ifanc yn byw ger sefydliadau niwclear mawr yn yr Almaen rhwng 1980 a 2003. Y stori'n llawn >>> |
Cwmni'n Prynu Tir ger Y Wylfa
Deellir bod cwmni Ffrengig gyda hanes diogelwch digon amheus, EDF Energy, wedi prynu tir amaethyddol o gwmpas y Wylfa, gyda golwg ar y llywodraeth yn cymeradwyo codi gorsaf ynni newydd ar yr Ynys.
Mae'r asiantaeth diolgelwch niwclear Ffrengig ASN wedi darganfod cyfres o ddifygion yn adeiladwaith adweithydd yn Normandy a ystyrir fel sail i gynlluniau i orsafoedd mae EDF yn bygwth i Brydain. Dywed ASN bod chwarter y weldiau yn yr amddiffyniad dur ddim yn cydymffurfio â safonau weldio arferol, a bod craciau wedi eu darganfod yn y sylfaen, y ddau yn elfennau hollbwysig i ddiogelu rhag damwain ymbelydrol.
Mae'r adroddiadau – mewn cyfres o lythyrau ynglyn ag archwiliadau rhwng Rhagfyr ac Ebrill – yn sicr o achosi cryn bryder gan bod diffygion tebyg wedi eu rhestri mewn adroddiad blaenorol gan awdurdod diogelwch y Ffindir ar yr unig adweithydd arall o'r math hwn sy'n cael ei godi unrhywle yn y byd.
Mae'r adroddiad blaenorol wedi achosi i'r adweithydd yn y Ffindir ar ynys Olkiluoto redeg ddwy flynedd ar ei hôl hi, tair blynedd ar ôl i'r gwaith adeiladu gychwyn. Credir hefyd bod yr adroddiad beirniadol wedi ychwanegu £1,000,000,000 at gost y prosiect. Byddai oedi a gor-wario tebyg yma yn creu anhrefn i raglen niwclear y llywodraeth, a gallai hyd yn oed arwain at ei ddileu.
![]() |
Annwyl Albert Llythyr Agored at Albert Owen A.S. Ynys Môn. ...Wrth drafod problem gwastraff, fe ddywedoch chi gyda chryn argyhoeddiad:- “Maen nhw’n gwybod beth i’w wneud efo’r gwastraff” Y llythyr yn llawn >>> |
![]() |
Cynhaliodd papur newydd North Wales Chronicle bleidlais ar lein, ar eu gwefan, rhwng Ionawr 17 – 25 yn gofyn a ddylai Ynys Môn gael gorsaf niwclear newydd? |
![]() |
DIOLCH YN FAWR IAWN I bob un ddaeth i GIG PAWB efo Anhrefn / Byd Mawr, Cwm y Glo ar Sadwrn 16 Chwefror. Diolch yn arbennig i Dewi a'r DJs, Sion, Rhys a rheolwyr Y Fricsan. |
Mae Rhodri yn dweud NA i niwcs yng Nghymru
Ar hyn o bryd, prif broblem y criw sydd o blaid adeiladu mwy o niwcs yw bod Llywodraethau Cymru a'r Alban yn erbyn... a ddim yn hapus gyda'r syniad o gladdu gwastraff o dan eu tir chwaith. Ar 12 Mehefin (2007) dywedodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, wrth y llywodraeth clymblaid newydd ei ethol - ei fod o ddim o blaid mwy o orsafoedd niwclear.
![]() |
Am ddyfodol hyderus i bobl Môn. |

NA i Niwc Newydd yn y Wylfa!
Mae ychydig o wleidyddion dan arweiniad Albert Owen A.S. yn ymgyrchu dros godi gorsaf niwclear newydd yn y Wylfa, Ynys Môn, gogledd Cymru – ar ôl i’r orsaf bresennol gau yn 2010. Maen nhw’n gobeithio ennill pleidleisiau trwy ymddangos eu bod yn sicrhau swyddi.
Dydy’r gwleidyddion DDIM yn hoffi siarad am
- Iechyd y cyhoedd
- Diogelwch y cyhoedd
- Y gost i’r amgylchedd
- Y miliynau o gost I CHI
Mae’n ffaith amlwg ers pedwar degawd bod y safle presennol yn mynd i gau, ond methodd y gwleidyddion â sicrhau cyflogaeth ddiogel ar yr ynys.

Protest y llynedd yn Sizewell
Spin Niwclear
Mae dau gyn-weinidogion sy'n mynd i ennill degau o filoedd o bunnoedd ar ben eu cyflogau seneddol trwy weithio gyda'r diwydiant niwclear yn deblygol o gael eu galw o flaen pwyllgor sy'n edrych mewn i lobio. Mae'r perthynas rhwng senedd Llundain a'r diwydiant, sydd yn ymgeisio am gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau, yn dod o dan sylw y Pwyllgor Gweinyddiaeth Cyhoeddus. Mae Ian McCartney, cyn-gadeirydd y Blaid Lafur a chyn-weinidog Masnach, a Richard Carborn, y cyn-weinidog dros Chwaraeon a chyn-gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Fasnach a Diwydiant, wedi cymryd y penodiadau ers sefyll i lawr o'r llywodraeth yn y haf. Times 10fed Ionawr 2008






