Ynni Glān a diogel
Awgryma rhai pobl na fydd ffynonellau adnewyddol o drydan yn ddigon i ddiwallu’n anghenion, ac y dylai ynni niwclear fod “yn rhan o’r cymysgedd ynni”, er gwaethaf holl broblemau’r dechnoleg honno (gweler www.mng.org.uk/gh/no_nukes.htm). Gwahanol iawn yw’r realiti: mae mwy na digon o ffynonellau trydan diogel a glân i ddiwallu’n anghenion, a gallwn ddod ag ynni niwclear i derfyn ei oes.
Dengys adroddiad “TRANS-CSP”, a gomisiynwyd gan lywodraeth yr Almaen, mewn manylder mawr fesul gwlad sut y gall Ewrop gan gynnwys gwledydd Prydain gyflawni eu holl angen am drydan, gweithredu toriadau mawr yng ngollyngiadau carbon diocsid o broses cynhyrcvhu trydan, a dirwyn ynni niwclear i ben yr un pryd.1 Mae nifer o adroddiadau eraill ar gael sy’n dod i gasgliadau tebyg2 ac mae dadansoddiad i’w weld ar www.mng.org.uk/gh/energy.htm.
Dyma rai o’r ffynonellau trydan glân a diogel y gallwn eu defnyddio. Gyda’r ewyllys gwleidyddol cywir, mae modd defnyddio’r technolegau hyn yn fuan.
Ynni gwynt yw un o’r ffynonellau ynni cyflymaf ei dwf ledled y byd. Dywed Cymdeithas Ynni Gwynt Prydain: “Amcangyfrifwyd bod ein adnoddau gwynt yn y môr yn unig yn ddigon i ddarparu pwer i’r Deyrnas Gyfunol dair gwaith drosodd”. Byddai’r Uwchgrid Ewropeaidd yn cywiro amrywedd ynni gwynt.
Ynni tonnau. Cynhyrchwyd trawsnewidydd ynni tonnau Pelamis a dyfeisiadau ynni tonnau eraill addawol yn barod. Amcangyfrifwyd y gallai ynni tonnau ddarparu tua 25% o alw’r Deyrnas Gyfunol.
Mae môrlynnoedd llanw yn cynhyrchu trydan ar adegau rhagweladwy gyda’r llanw a’r trai, a gweithredu’r un pryd fel dyfeisiadau storfa pwmp gan gyplysu cyflenwad a galw. Amcangyfrifwyd y gallai 8% o drydan y Deyrnas Gyfunol ddod o’r ffynhonell hon.
Ynni solar. Gallai paneli solar photofoltaig ddarparu o leiaf 20% o anghenion y Deyrnas Gyfunol. Amcangyfrifwyd y gallai hyd at 70% o alw trydan y Deyrnas Gyfunol ddod o’r ffynhonell hon.
Arbed ynni. Ar hyn o bryd ‘dan ni’n gwastraffu llawer o drydan. Trwy ddefnyddio goleuadau sy’n arbed ynni yn lle y rhai cyffredin, gellid arbed o leiaf 2% o alw trydanol y Deyrnas Gyfunol, 2% arall trwy ddileu “stand by” ar setiau teledu ac offer trydanol arall, a 6% ychwanegol trwy ddefnyddio peiriannau mwy effeithiol mewn diwydiant. Gellir gwneud arbedion mawr pellach trwy gyfrwng goleuo mwy effeithiol yn y sector fasnachol a goleuadau trefi a dinasoedd. Mae modd arbed o leiaf 10% o alw trydan y Deyrnas Gyfunol, sy’n gyfwerth â thua chwe phwerdy niwclear, trwy fesurau arbed syml.
Mae dyfeisiadau canolbwyntio ynni haul yn defnyddio drychau i ganolbwyntio golau’r haul i greu gwres a ddefnyddir i godi stem i yrru twrbinau a pheiriannau cynhyrchu, yn union fel gorsaf drydan gonfensiynol. Mewn diffeithdiroedd poeth mae’r sustem yma’n gweithio orau, ond mae’n bosibl ac economaidd i drosglwyddo’r trydan hwn dros bellteroedd maith gan ddefnyddio llinellau trosglwyddo “HDVC” effeithiol iawn. Mae’r adroddiad TRANS-CSP yn amcangyfrif y gallai ynni haul dwys ddod yn un o ffynonellau trydan rhataf Ewrop, gan gynnwys cost trosglwyddo. Bwriwyd amcan y gallai ardal o ddiffeithdir poeth yn mesur tua 110 cilomedr x 110 cilomedr, mewn egwyddor, ddarparu holl anghenion trydan yr Undeb Ewropeaidd. Gweler www.trec-uk.org.uk.
Mae posibiliadau mawr gan ffynonellau glân ar gyfer trydan i greu swyddi a chyflogau da mewn diwydiannau mawr newydd. Mae dewisiadau eraill yn cynnwys ynni a gwres cyfun, ynni o’r creigiau yng Ngwlad yr Iâ, glo glân, cerrynt llanw, biomas a biodanwydd, a thwrbinau gwynt ar raddfa fach. Does dim angen ynni niwclear o gwbl gyda’i holl broblemau.
Nodiadau
Gellir lawrlwytho copiau trwy gysylltiadau o www.trec-uk.org.uk/reports.htm.
A renewable electricity system for the UK: a response to the 2006 energy review, Dr Mark Barrett, Bartlett School of Graduate Studies, University College London, April 2006; Decarbonising the UK: energy for a climate conscious future, Tyndall Centre for Climate Change Research, October 2006; A bright future: Friends of the Earth’s electricity sector model for 2030, March 2006; Heat by George Monbiot, Penguin Books (Allen Lane), London, 2006, ISBN-13 978-0-713-99923-5; gweler hefyd www.mng.org.uk/gh/scenarios.htm.

