Stop Anglesey's nuclear nightmare - sign our petition

Y ffeithiau

FFAITH - GALLAI CHERNOBYL ARALL DDIGWYDD YMA

Mae record ddiogelwch ynni niwclear ym Mhrydain yn gatalog o drychinebau’n barod. Nid yw’r genhedlaeth newydd o adweithyddion wedi’u profi. A sut mae gwagio poblogaeth yr ynys dros ddwy bont?

FFAITH - DOES NEB YN GWYBOD BETH I’W WNEUD GYDA’R GWASTRAFF MARWOL

Ni chanfuwyd ateb diogel. Gall gwastraff aros yn ymbelydrol am hyd at filiwn o flynyddoedd. Claddwch o dan y ddaear medd y llywodraeth – allan o’r golwg ac anghofiwch amdano fo? Rhodd enbyd i genedlaethau’r dyfodol?

FFAITH - PERYGLON TERFYSGOL

Mae gwasgaru defnyddiau niwclear yn cynyddu perygl terfysgaeth. Fe’u cludir ar drenau ar draws yr ynys. Ac ni chodwyd adweithydd a fedr wrthsefyll jet yn hedfan i mewn iddo.

FFAITH - NID YW YNNI NIWCLEAR YN CYNNIG SICRWYDD CYFLENWAD

Mae’r llywodraeth yn honni bod niwclear yn fwy dibynadwy na nwy a glo, sy’n gorfod dod o wledydd fel Rwsia. O ble daw iwraniwm? Gwledydd ‘dibynadwy’ fel Kazakhstan – o, a Rwsia!

FFAITH - NIWCLEAR: DIM YR ATEB I GYNHESU BYD-EANG

Nid yw’r cylch cynhyrchu niwclear yn ddigarbon. 4% yn unig o doriad mewn gollyngiadau CO2 fyddai’n dod o godi 10 adweithydd newydd – rhy ychydig, rhy hwyr.

FFAITH - NI BYDD NIWCLEAR YN CADW’R GOLEUADAU
YMLAEN

Mae cyfraniad ynni niwclear at holl alw ynni’r Deyrnas Gyfunol mor fach (dim ond 3.6%) fel na fedr ond effeithio’n ymylol ar sicrwydd cyflenwad ynni. Yn barod ar draws y byd mae ynni niwclear yn darparu llai o drydan nac ynni adnewyddol.

FFAITH - MAE YNNI NIWCLEAR YN ATAL YNNI GWYRDD

Mae pob punt a werir ar Niwclear yn golygu punt yn llai a werir ar ynni adnewyddol ac arbed ynni – sef y gwir atebion i newid hinsawdd.

FFAITH - CHI FYDD YN TALU

Dywed y llywodraeth mai’r sector breifat fydd yn talu, ond yn y pen draw y trethdalwr fydd yn talu costau mawr fel yswiriant rhag peryglon a damweiniau. Heb arian trethdalwyr, ni chodir gorsafoedd niwclear newydd.

Sign our petition