Stop Anglesey's nuclear nightmare - sign our petition

Cysylltu â Pawb

Os wyt eisiau helpu stopio atomfa arall rhag gael ei godi yn y Wylfa, cofia arwyddo ein deiseb ar-lein... rho glic i'r panel ar ben y dudalen yma.

 

Mae pasio ymlaen manylion y deiseb i dy ffrindiau yn gymorth mawr, a hefyd cael gwefannau eraill i gynnwys linc i ni.

 

Mae croeso cynnes i bawb ymuno â PAWB! - a dod i'n cyfarfodydd. Os wyt eisiau cymryd rhan, mae angen arnon ni help trwy'r amser efo 'sgrifennu llythyron, stwffio amlenni, rhannu taflenni, trefnu cyfarfodydd cyhoeddus, gigs a gweithgareddau eraill, hyd yn oed hongian ein baner enfawr mewn lefydd cyhoeddus rownd Sir Fôn a Gwynedd. Mae pob cymorth, dim ots pa mor fach, yn hwb mawr i'r ymgyrch.

 

Sign our petition