Stop Anglesey's nuclear nightmare - sign our petition

TitleBar

3 Astudiaeth yn Cysylltu Canser â Niwcs

Cyhuddwyd y llywodraeth o fuddsoddi mewn technoleg hen ffasiwn, ar ôl i dair astudiaeth bwysleisio'r cysylltiadau tebygol rhwng gorsafoedd niwclear a Leukaemia mewn plant.

Paratowyd y bwysicaf o'r dair astudiaeth ar gyfer Llywodraeth yr Almaen ac fe'i cyhoeddwyd yn yr International Journal of Cancer a'r European Journal of Cancer.

Darganfuwyd bod cynnydd o 117% mewn Leukaemia ymhlith plant ifanc yn byw ger sefydliadau niwclear mawr yn yr Almaen rhwng 1980 a 2003.

Mewn ail adroddiad yn yr Almaen, a gyhoeddwyd yn Environmental Health Perspectives darganfuwyd cynnydd triphlyg mewn leukaemia ymhlith plant yn byw o fewn pum km o orsaf niwclear Krümmel ger Hamburg.

Dadansoddodd ymchwilwyr o'r Medical University of South Carolina, ganlyniadau 17 astudiaeth o 136 safle niwclear ym Mhrydain, Canada, Ffrainc, America, yr Almaen, Japan a Sbaen. Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn yr European Journal of Cancer Care.

Daethant i'r casgliad bod plant o dan 9 oed oedd yn byw ger safleodd niwclear yn dioddef cynnydd o 14 i 21% yn y raddfa leukaemia.

Gwelwyd cynnydd o rhwng 5 a 24% yn y raddfa marwolaethau o'r afiechyd gan ddibynnu ar agosrwydd i orsafoedd niwclear.

Dywedodd Dylan Morgan ar ran PAWB: “Oes gwir angen y dechnoleg hen ffasiwn yma sy'n perthyn i ganol yr 20fed ganrif, pan rydan ni'n gweld astudiaethau newydd yn gwneud cysylltiad cryf rhwng gorsafoedd niwclear a leukaemia mewn plant?

“Beth bynnag yw uchelgais y diwydiant niwclear, mae'n amheus iawn a yw pobl Cymru eisiau'r dechnoleg beryglus, fudur ac eithriadol o ddrud yma ar garreg y drws unwaith eto.

“Bu'n rhaid ini fyw gyda dwy orsaf niwclear yng Ngogledd-orllewin Cymru yn barod, yn y Wylfa a Thrawsfynydd.

“Rydan ni wedi dioddef mwy na chyfran deg o'r diwydiant niwclear yn barod, ac yn bendant does dim croeso i orsaf arall yma.

Canser ar ol Chernobyl

Dim ond 3 oed oedd Nastya o Belarus pan ganfuwyd bod ganddi gancr y groth ac ysgyfaint. Yn sgil trychineb Chernobyl, mae ymchwil yn dangos fwyfwy effeithiau marwol hyd yn oed lefelau isel o ymbelydredd. Mae 10 mlynedd arall o gyfyngiadau newydd eu gosod ar ffermydd defaid yng ngogledd Cymru. 20 mlynedd ar ôl Chernobyl. Ydan ni eisiau dyfodol niwclear i’n plant?

 

Sign our petition