Stop Anglesey's nuclear nightmare - sign our petition

TitleBar

?Gwrthdaro niwclear rhwng Caerdydd a Llundain

?Ers deunaw mis, mae Cynghrair Wrth-Niwclear Cymru a’r Grwp Ymgynghori Niwclear wedi cael cyfarfodydd gyda Jane Davidson AC, Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru’n Un i drafod bygythiad codi gorsafoedd niwclear newydd. Yn y trafodaethau hyn, manylwyd ar broblemau sylweddol ymdrin â’r gwastraff niwclear poethach a dwysach ei ymbelydredd a fyddai’n deillio o’r tanwydd niwclear dwysach o unrhyw adweithyddion niwclear newydd. Mae gan Jane Davidson gyfrifoldeb dros reoli gwastraff niwclear ar ddaear Cymru.

?Ar ran PAWB, ym Mehefin eleni gohebodd Dr.Carl Clowes gyda Jane Davidson yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio’u grymoedd fel Awdurdod Cyfiawnhau yn unol â thelerau Concordat 2005 a arwyddwyd hefyd gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn Lloegr, a’r Llywodraethau Datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn ail, galwodd am ddatganiad clir ganddi ar safbwynt Llywodraeth y Cynulliad ar broblem gwastraff niwclear dwys ymbelydrol a phoeth a allai gael ei gynhyrchu o orsafoedd niwclear newydd posibl.

Mewn ymateb cadarnhaodd Jane Davidson safbwynt a fynegwyd gan Rhodri Morgan ym Mehefin 2007, sef nad oes angen gorsafoedd niwclear newydd yng Nghymru gan y byddwn yn fwy na hunan gynhaliol o safbwynt cynhyrchu trydan o fewn ychydig flynyddoedd. Dywedodd Jane Davidson ei bod hefyd wedi ysgrifennu at yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn galw am “ymchwiliad cyhoeddus i’r cais am gyfiawnhad ar gyfer adweithyddion niwclear newydd arfaethedig ar sail pryder am ddiogelwch rheolaeth dros wastraff niwclear yn y dyfodol”.

Dywedodd Dr.Clowes:
“Dyma enghraifft o Weinidog yn gwneud ei gwaith yn gydwybodol a thrwyadl ar ran pobl Cymru. Mae’r gwrthdaro hwn rhwng Llywodraeth y Cynulliad a’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd fel yr Awdurdodau Cyfiawnhau perthnasol dros godi gorsafoedd niwclear newydd yn arwyddocaol iawn. Mae’n annhebygol iawn felly y gwelwn unrhyw ddatblygu pellach ar orsafoedd niwclear yng Nghymru”.

Mae datganiad Jane Davidson yn creu cyfle i wleidyddion ar bob lefel o lywodraeth ar Ynys Môn i ganolbwyntio’u hynni ar greu eco ynys fwyaf blaengar Ewrop yma gyda’r holl bosibiliadau cyffrous o greu swyddi mewn ynni adnewyddol ac arbed ynni.”

Sign our petition