TitleBar
LLYTHYR AGORED AT ALBERT OWEN
Aelod Seneddol Ynys Môn
Chwefror 8, 2008
Annwyl Mr Owen,
Ar rifyn Ionawr 31 o “Pawb a’i Farn” ar S4C lle roeddech yn westai ar y panel, trafodwyd ynni niwclear. Wrth drafod problem gwastraff, fe ddywedoch chi gyda chryn argyhoeddiad:- “Maen nhw’n gwybod beth i’w wneud efo’r gwastraff.”
Beth felly yw’ch ymateb i’r ffaith bod gwaith ailbrosesu gwastraff niwclear THORP yn Sellafield wedi gorfod cau dridiau cyn rhaglen “Pawb a’i Farn”? Bu’n rhaid i THORP gau yn Ebrill 2005 ar ôl i ollyngiad cyfwerth â hanner pwll nofio Olympaidd o asid nitrig hylifol yn cynnwys wraniwm a phlwtoniwm gael ei ddarganfod. Bu’r hylif marwol hwn yn gollwng am wyth mis heb ei ddarganfod er gwaethaf presenoldeb teledu cylch cyfyng. Dirwywyd BNFL £500,000 am eu methiannau diogelwch. Caewyd THORP am ddwy flynedd.Un cytundeb ailbrosesu tanwydd niwclear hesb yn unig a gyflawnwyd gan THORP ers iddo ailagor. Bu’n rhaid atal unrhyw waith pellach oherwydd bod lifft sy’n gweithredu o dan ddwr i symud tanwydd i’w ailbrosesu wedi torri.
Ar yr un pryd, cyhoeddwyd adroddiad deifiol gan yr Arolygaeth Sefydliadau Niwclear ar Sellafield. Datgelir yn yr adroddiad bod pob cam o’r gwaith ailbrosesu yn THORP mewn argyfwng. Y broblem beryclaf yw methiant yr offer i oeri’r gwastraff. Gallai hynny ar ei waethaf arwain at ffrwydriad a fyddai’n gwasgaru ymbelydredd dros ardal fawr gan achosi cannoedd o filoedd o farwolaethau trwy gancr.
Ychwanega’r adroddiad bod safonau gwael yn y storfeydd gwastraff; nad yw archwiliadau diogelwch “yn gwbl effeithiol”, ac fe gollfernir “diffyg canolobwyntio ar drefniadau argyfwng a diogelwch tân”.
Mae hyn oll yn digwydd ar adeg sensitif iawn i’r diwydiant niwclear wrth iddo geisio darbwyllo buddsoddwyr i godi gorsafoedd niwclear newydd. Fel y dywed yr arbenigwr niwclear Dr John Large:-
“Mae’r Llywodraeth yn awyddus i godi gorsafoedd niwclear newydd, ond mae diwedd y broses, sy’n delio â’r gwastraff, yn llanast llwyr.”
Ydych chi, Mr Owen, yn dal i gredu bod y diwydiant niwclear “yn gwybod beth i’w wneud efo’r gwastraff”?
Yn gywir,
Dylan Morgan, Pobl Atal Wylfa B – PAWB

