Stop Anglesey's nuclear nightmare - sign our petition

Pleidlais 80% yn erbyn Wylfa-B


Cynhaliodd papur newydd North Wales Chronicle bleidlais ar lein, ar eu gwefan, rhwng Ionawr 17 - 25 yn gofyn a ddylai Ynys Môn gael gorsaf niwclear newydd?


Y canlyniad oedd: Ie 20% Na 80%


Mae'r canlyniad hwn yn dangos yn glir bod gwrthwynebiad dwfn yng Ngogledd-Orllewin Cymru i ynni niwclear a bwriad llywodraeth Gordon Brown i godi gorsafoedd niwclear newydd.


Ers cyhoeddiad y llywodraeth bythefnos yn ôl yn cefnogi codi gorsafoedd niwclear newydd, bu gwleidyddion Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ym Môn yn baglu ar draws eu gilydd yn eu brwdfrydedd dros ynni niwclear gan lwyr gam-ddarllen y farn gyhoeddus ar y pwnc pwysig hwn.


Mae eu gor-frwdfrydedd yn gamarweiniol iawn o gofio amserlen faith unrhyw rhaglen niwclear newydd a safle isel y Wylfa yn rhestr y safleoedd posibl.


Mae cwmni EDF o Ffainc, a ystyrir yn geffyl blaen yn y ras i godi gorsaf niwclear newydd yn cydnabod y bydd hi'n 2017 o leiaf cyn iddynt gwblhau codi un gorsaf. Mae'r gwleidyddion felly yn camarwain y cyhoedd i feddwl bod cannoedd o swyddi i ddod yn fuan i'r gweithlu presennol.


Yn wyneb y gwrthwynebiad cryf a ddangoswyd ym mhleidlais y Chronicle mae P.A.W.B yn galw ar wleidyddion o’r tair plaid i egluro pam eu bod yn dewis anwybyddu gwrthwynebiad cyhoeddus mawr i ehangu'r diwydiant niwclear ym Môn?
Mae'n debygol iawn y bydd gwleidyddion presennol Ynys Môn wedi hen ymddeol neu golli eu seddi heb weld unrhyw gais swyddogol i godi ail orsaf niwclear ym Môn.

 

Efallai daw eu hymddeoliad yn gynt na'r disgwyl os mynnant barhau i anwybyddu barn pleidleiswyr.

 

>> North Wales Chronicle

 

Sign our petition